Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 CELG(4)-19-14 Papur 1

 

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol  

 

Dydd Iau 3 Gorffennaf 2014

 

Diwylliant a Chwaraeon

 

Portffolio

 

1.    Mae fy ngweledigaeth ar gyfer y portffolio yn seiliedig ar ehangu diddordeb, mwynhad a chyfranogiad mewn diwylliant a chwaraeon, a chryfhau sylfaenein diwylliant a’n chwaraeon ar gyfer y dyfodol. Mae’r weledigaeth hon yn cefnogi blaenoriaethau trawsbynciol y Llywodraeth o ran trechu tlodi, gwella iechyd, codi cyflawniad addysgol a chefnogi swyddi a thwf.

 

Blaenoriaethau a Chynnydd

 

Swyddi a Thwf

 

2.    Roedd gwaith ymchwil gan ECOTEC yn 2010 yn amcangyfrif bod sector yr amgylchedd hanesyddol yn cyfrannu tua £840 miliwn i Werth Ychwanegol Gros Cymru (GVA), sy’n cyfateb i 1.9%. Mae Arolwg Ymwelwyr Cymru ar gyfer 2013 yn nodi mai ymweld â chastell neu atyniad hanesyddol yw’r rheswm penodol sy’n cael ei nodi amlaf gan ymwelwyr dramor dros ymweld â Chymru, ac mae hyn yn wir am 61% o deithiau. Mae Cadw wedi sefydlu perthynas weithio gref â Croeso Cymru er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau strategol yn cyd-fynd ac er mwyn cyfuno ymdrechion twristiaeth. Mae hyn yn cynnwys rôl allweddol Cadw mewn ymgyrch farchnata flaenllaw ar y cyd gwerth £4 miliwn yn hyrwyddo prosiectau Amgylchedd ar gyfer Twf (E4G) a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd.

 

3.    Mae Cadw yn rheoli’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth (HTP) hefyd er mwyn datblygu twristiaeth treftadaeth yng Nghymru. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru a chan Gronfeydd Cydgyfeirio'r Undeb Ewropeaidd, a’i nod yw manteisio i’r eithaf ar werth economaidd treftadaeth drwy gynyddu nifer, hyd a gwerth unrhyw ymweliadau â Chymru. Cychwynnodd y prosiect yn 2009 ac fe’i cynhelir tan fis Mawrth 2015 ac mae’n werth cyfanswm o £19 miliwn.

 

4.    Mae wedi galluogi Cadw i sefydlu partneriaethau cryf â rhanddeiliaid a chymunedau, yn ogystal â helpu i ddatblygu’r cynnig a’r cynnyrch mewn safleoedd allweddol, i greu ymwelwyr ac incwm ychwanegol ar gyfer Cadw a’r cymunedau a fydd yn dibynnu ar ei safleoedd ar gyfer proffil twristiaeth a gwariant ategol gan dwristiaid. Mae prosiect ymchwil gan Ysgol Fusnes Caerdydd mewn chwe safle mawr sy’n gysylltiedig â’r HTP yn 2013 wedi canfod £6.95 miliwn Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA) ychwanegol fesul safle, a phriodolwyd £1.75 miliwn o’r GVA yn uniongyrchol i’r safle - y chwe safle oedd: Gwaith Haearn Blaenafon, Castell Caernarfon, Castell Caerffili, Castell Conwy, Castell Harlech a Llys yr Esgob Tŷddewi.

 

5.    Roedd y cyfraniad a wnaed gan y Parciau Cenedlaethol i ein economi yn sylw adroddiad Arup yn 2013. Roedd y prif ganfyddiadau’n cynnwys bod y Parciau’n cyfrannu dros hanner biliwn o bunnoedd GVA (1.2 % o economi Cymru); maent yn croesawu 12 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn sy’n gwario tua biliwn o bunnoedd yn ystod eu hymweliadau.

 

6.    Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ased aruthrol. Roedd data arolwg Ysgol Fusnes Caerdydd o 2013 yn dangos y bu 835,000 o arosiadau dros nos rhwng mis Medi 2011 a mis Awst 2012 a 1.6 miliwn o deithiau dydd gan oedolion a oedd yn ymweld â’r Llwybr. Ar y cyfan, mae effaith y gwariant cyffredinol mewn perthynas â gwariant ymwelwyr sy’n gysylltiedig â Llwybr Arfordir Cymru yn werth tua £32.2 miliwn yn ychwanegol i Economi Cymru. Roedd y gweithgarwch economaidd o ganlyniad i gwblhau Llwybr Arfordir Cymru i gyfrif am tua 730 ‘o flynyddoedd mewn termau cyflogaeth i unigolion’.

 

7.    Cafodd ein safle Amguedfa Cymru Sain Ffagan ei bleidleisio hoff atyniad i ymwelwyr yn y DU gan ddarllenwyr cylchgrawn Which? yn 2011. Dyfarnodd y cylchgrawn Which? hefyd y statws Darparwr a Argymhellir i’r lleoliad hefyd, sy’n statws a chwenychir yn y diwydiant. Mae prosiect ailddatblygu Sain Ffagan sy’n werth £25 miliwn felly yn ymrwymiad sylweddol i’r gwaith o ddatblygu diwydiant twristiaeth Cymru. Bydd gwaith adeiladu’r prosiect yn cychwyn yn ystod yr Hydref 2014 a bydd wedi’i gwblhau erbyn 2017. Bydd y prosiect yn creu tua 130 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn ystod y broses adeiladu a 49 o swyddi cyfwerth ag amser llawn parhaol, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Bydd yn cefnogi prentisiaethau, hyfforddiant a 1,000 o gyfleoedd gwirfoddoli unwaith y bydd wedi’i gwblhau. Bydd y prosiect yn creu incwm ychwanegol sylweddol ar gyfer ardal Caerdydd a bydd yn cyfeirio ymwelwyr i atyniadau treftadaeth eraill ledled Cymru.

 

8.    At hynny, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru wedi datblygu partneriaethau pwysig â gwledydd eraill gan gynnwys Tsieina, yr Unol Daleithiau, yr Ariannin a Japan. Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi’u cynnal neu ar waith ar hyn o bryd - mae arddangosfeydd celf o’r radd flaenaf o gasgliad Amgueddfa Cymru yn mynd ar daith i bedair oriel yn America; dathliadau Patagonia 2015; arddangosfeydd i Tsieina ac oddi yno; a datblygu trafodaethau ar gyfer cydweithio â Llyfrgell Shanghai. Mae’r rhain yn codi proffil Cymru a diwylliant Cymru ar hyd a lled y byd, gan ddod â chyfleoedd datblygu.

 

9.    Gall gweithgarwch rhyngwladol gan ein hartistiaid a’n sefydliadau celf, yn broffesiynol ac amaturaidd, godi proffil Cymru ar lwyfan y byd, ac maent yn gwneud hynny. Mae’r gwaith hyrwyddo’n cael ei gefnogi hefyd gan y llu o wyliau, ar draws amrywiaeth o genres a gynhelir yn flynyddol ym mhob cwr o Gymru. Rydym wedi gweld llwyddiant Womex yng Nghaerdydd y llynedd. Eleni rydym yn dathlu genedigaeth Dylan Thomas gyda digwyddiadau yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Bydd y flwyddyn nesaf yn nodi 150 o flynyddoedd ers i’r Cymry gyrraedd Patagonia, a bydd y dathliadau yma ac ym Mhatagonia yn cynnwys ein sefydliadau celf.

 

10. Mae gwirfoddoli yn bwysig o ran symud pobl yn agosach at gyflogaeth. O ran sgiliau a chyflogaeth, mae gan Cadw nifer o brosiectau ar y gweill sy’n cefnogi sgiliau adeiladu a chadwraeth traddodiadol, gan gynnwys prentisiaethau a chydweithio â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) ar brosiect sgiliau cadwraeth sy’n cynnwys hyfforddiant cyrsiau byr ar gyfer tua 140 o gyfranogwyr ym mlwyddyn ariannol 2014-15. Mae’r prosiect ar dri safle, ac mae un ohonynt yn cael ei gynnal gan Cadw. Mae Cadw yn cydweithio â phartneriaid treftadaeth hefyd er mwyn cynnig prentisiaethau a lleoliadau hyfforddi mewn sgiliau adeiladu traddodiadol a hyfforddiant Tywyswyr Teithiau. Bydd hyn yn cynnwys pwyslais ar feysydd targed; sy’n gysylltiedig â chlystyrau a phrosiectau Cymunedau yn Gyntaf gan helpu i ddarparu Fframwaith Archaeoleg Gymunedol.

 

11.  Yn ogystal â chyfleoedd yn Sain Ffagan, mae Amgueddfa Cymru yn gweithio ar gynllun ardystiedig Gwirfoddolwyr y Mileniwm ar gyfer pobl dan 25 oed sy’n dilyn rhaglenni allgymorth ardystiedig, e.e. drwy rwydwaith y Coleg Agored.

 

12. Mae Chwaraeon Cymru wedi cyflwyno system fwy strwythuredig o wirfoddoli gyda chyfleoedd am gyfnodau cyfyngedig o hyfforddiant, ymgysylltu corfforaethol ac, mewn rhai achosion, byddant yn arwain at achredu. Roedd fy adran yn gyfrifol hefyd am hwyluso cydweithredu rhwng Undeb Rygbi Cymru (WRU) a Chymunedau yn Gyntaf i ddatblygu rhaglen brentisiaeth ar gyfer pobl ifanc sy’n byw mewn Ardaloedd Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf, nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET).

 

13. Mae ein llyfrgelloedd cyhoeddus yn cydweithio’n agos â phartneriaid fel Canolfan Byd Gwaith er mwyn helpu pobl i ddychwelyd i weithio. Mae llawer o lyfrgelloedd yn cynnig sesiynau wedi’u haddasu er mwyn helpu pobl i chwilio ar-lein am swyddi, i gwblhau eu CVs ac i roi cymorth iddynt gael mynediad at wasanaethau fel Paru Swyddi sy’n gynyddol bwysig.

 

14. Mae ‘DigiDO’, prosiect Llyfrgell Genedlaethol Cymru a ariennir gan Ewrop, yn cefnogi diwydiannau creadigol a diwylliannol mewn ardaloedd cydgyfeirio er mwyn manteisio i’r eithaf ar arbenigedd digidol staff Llyfrgelloedd, ac er mwyn defnyddio adnoddau digidol casgliadau’r Llyfrgell i greu cynhyrchion newydd. Mae wedi cefnogi dros 80 o fusnesau hyd yn hyn ac wedi rhoi’r gallu iddynt gystadlu yn lleol ac yn fyd-eang - fel cael mynediad at gyngor a gwybodaeth arbenigol ar amrywiaeth o faterion o hawlfraint, trwyddedu a TG, i ddarpariaeth ddigidol, storio a chadwraeth ddigidol i chwilio drwy adnoddau cyfredol.

 

Cyrhaeddiad Addysgol

15. Ynghyd â'r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, yr wyf yn bwriadu gwneud datganiad am Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Creadigol arfaethedig Llywodraeth Cymru yr haf hwn. Bydd y Cynllun yn nodi manylion sut y bydd Llywodraeth Cymru, y 4 consortia addysg awdurdodau lleol, Cyngor Celfyddydau Cymru a phartneriaid eraill yn gweithredu'r 12 argymhelliad yr adroddiad annibynnol yr Athro Dai Smith yn 'Y Celfyddydau mewn Addysg mewn Ysgolion yng Nghymru' (Medi a gyhoeddwyd 2013). Mae hyn yn dilyn ymlaen o ymateb ar y cyd a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth eleni.

 

16. Mae fy adran hefyd wedi bod yn cydweithio â’r Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) dros y flwyddyn ddiwethaf i ddatblygu Rhaglen Llythrennedd Corfforol i Ysgolion. Fel rhan o hyn, mae Chwaraeon Cymru wedi cael y gwaith gan AdAS o ddatblygu Fframwaith Llythrennedd Corfforol. Bydd y fframwaith yn cael ei dreialu gan ysgolion sy’n ymwneud â’r Rhaglen Llythrennedd Corfforol i Ysgolion: Rhaglen Gymorth Ymyrraeth Wedi’i Thargedu i Ysgolion. Bwriad  y rhaglen yw cymell plant a phobl ifanc sy’n dod o gymunedau difreintiedig i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol – gan eu hannog i newid eu hagwedd am byth. Bydd y fframwaith yn cael ei ystyried gan yr Athro Graham Donaldson fel rhan o’r adolygiad o’r cwricwlwm sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i hyn wneud gwahaniaeth mawr i’r ysgolion hynny sydd wedi dewis cymryd rhan. Bydd yn canolbwyntio ar rai o’n hysgolion sy’n wynebu’r her fwyaf a bydd yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn cael eu monitro’n rheolaidd er mwyn helpu i sicrhau bod y gefnogaeth yn arwain at welliannau go iawn.

 

17. Ar 19 Mawrth lansiwyd y prosiect pob plentyn yn aelod llyfrgell a gynhelir mewn 6 awdurdod peilot (Blaenau Gwent, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Powys, Abertawe) gydag aelodaeth llyfrgell awtomatig ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 (8-9 oed). Y nod yw annog plant i fwynhau darllen. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod hyn yn hanfodol i gyfleoedd bywyd dilynol a lefelau llythrennedd cynyddol.

 

18. Roedd 85,435 o ymwelwyr Dysgu Gydol Oes â safleoedd Cadw yn 2013-14. Mae ymweliadau dysgu heb dywysydd yn rhad ac am ddim. Yn ogystal, darparodd staff Cadw a chontractwyr arbenigol amrywiaeth o weithgareddau dysgu ar y safle ac yn yr ystafell ddosbarth.

 

19.  Mae Cadw yn cydweithio â nifer o bartneriaid gan gynnwys Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru ar brosiectau sy’n datblygu rhifedd a llythrennedd, sgiliau trosglwyddadwy a dysgu drwy brofiadau creadigol a diwylliannol mewn amgylchedd hanesyddol. Mae rhai prosiectau’n cynnwys nifer fawr o gyfranogwyr, ac mae rhai eraill, fel gwaith gydag Unedau Atgyfeirio Disgyblion, yn canolbwyntio ar niferoedd llai.

 

20.  Nod y Fframwaith Archaeoleg Gymunedol, a lansiwyd gennyf ym mis Gorffennaf 2013, yw gwneud archaeoleg yn hygyrch i bob aelod o’r gymuned. Felly, mae Archeolegydd Cymunedol Cadw wedi bod yn gweithio ar y cyd â gweithwyr addysg arbennig ar draws Rhondda Cynon Taf er mwyn helpu i oresgyn rhwystrau i dreftadaeth. Trwy’r cynllun ‘Learning Steps’, rhaglen addysg gymunedol ar gyfer oedolion ag anawsterau dysgu, a chydag Ysgol Anghenion Arbennig Ysgol Tŷ Coch, Tonteg, Pontypridd, mae archaeoleg wedi cael ei gyflwyno i aelodau’r gymuned nad oedd wedi cael cyfle i ddysgu amdano a’i brofi yn y gorffennol. Nod y gweithdai yw cyflwyno gwrthrychau archeolegol mewn taith hwyliog a difyr a lle gall cyfranogwyr ddysgu o’r newydd am y gorffennol a dangos sgiliau cymdeithasol, llythrennedd a rhifedd newydd a gwell.

 

Trechu Tlodi

 

21. Ym mis Marth roeddwn yn falch o gael adroddiad y Fonesig Kay Andrews ar Ddiwylliant a Thlodi. Gall diwylliant a threftadaeth helpu i roi hwb i hyder pobl, i godi dyheadau ac i ysbrydoli pobl i fynd ati i ddysgu ac mae’n cyfrannu at adfywio ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae fy Adran yn cydweithio ag adrannau Llywodraeth Cymru a chyda phartneriaid allanol i ddatblygu dull o roi’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad ar waith. Rydym yn anelu i’w gyhoeddi yn yr hydref.  

 

22. Yn y cyfamser, mae Cadw yn parhau i gymryd camau er mwyn sicrhau bod safleoedd hanesyddol yn fwyfwy hygyrch i ymweld â nhw ac yn rhoi mwynhad - ar gyfer ymwelwyr ac ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru gan dargedu teuluoedd a chynulleidfaoedd incwm isel yn benodol . Mae hyn yn cynnwys cydweithio â nifer o gymunedau a sefydliadau celf er mwyn galluogi safleoedd treftadaeth i gael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau lleol diwylliannol. Mae Cadw yn cynnal dros 200 o ddigwyddiadau bob blwyddyn ledled Cymru, gan gynnwys gweithgareddau y gellir cymryd rhan ynddynt, teithiau, sgyrsiau, hanes byw a pherfformiadau byw. Mae Cadw yn gofalu ei fod yn cysylltu ei ddigwyddiadau â’r gwaith o gynllunio dehongli yn ei henebion ac i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chynlluniau dysgu, cynhwysiant a blaenoriaethau twristiaeth y Llywodraeth.

 

23. Mae Cyngor y Celfyddydau wedi datblygu olynydd i’w rhaglen Cyrraedd y Nod - a fydd yn cael ei adnabod fel Momentum. Mewn partneriaeth â Chymunedau yn Gyntaf bydd nifer o bobl ifanc sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac mewn perygl o gael eu dadrithio, yn gyfranogi mewn gweithgareddau celf mwy dwys. Hyd yn hyn, mae 14 o brosiectau ledled Cymru ar y gweill, ac mae rhai ohonynt mewn ardaloedd a nodwyd fel rhai â nifer fawr o aelwydydd heb waith.

 

24. Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith yr elusen Kids in Museums. Mae’r elusen yn cynnal Diwrnod Meddiannu Amgueddfeydd yng Nghymru, gyda phlant a phobl ifanc yn cael eu gwahodd i amgueddfeydd Cymru er mwyn ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gan gynnwys blaen tŷ, darparu teithiau tywys, ateb y ffôn ac ati. Mae hyn yn rhan o strategaeth ehangach i feithrin cysylltiadau cynaliadwy rhwng amgueddfeydd lleol a’r bobl ifanc yn eu cymunedau. Yn 2013, roedd dros 700 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan ledled Cymru.

 

25. Bydd holl lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn darparu mynediad gyda chymorth rhad ac am ddim i galedwedd a meddalwedd cyfrifiaduron, y Rhyngrwyd a darpariaeth gynyddol o’r Wi-Fi. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru yn darparu 1.9 miliwn o oriau o’r Rhyngrwyd am ddim bob blwyddyn at ddefnydd y cyhoedd. Maen nhw’n bartner allweddol yn y gwaith o helpu Cymunedau 2.0 i ddarparu eu rhaglen o ddatblygu sgiliau TGCh. Yn mwy aml, mae argaeledd cyfrifiaduron a chymorh eu hangen i gael mynediad i wasanaethau Jobcentre Plus a hawliau budd-daliadau.

 

26. Mae’r adolygiad arbenigol o wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru a gomisiynwyd gennyf yn craffu ar y newidiadau arfaethedig i’r gwaith o ddarparu gwasanaethau llyfrgell cyhoeddus gan awdurdodau lleol yn sgil pwysau ariannol, ac ar sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu “gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon” fel yr amlinellir yn Neddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964. Dosbarthwyd arolwg ymhlith y 22 o awdurdodau lleol gan fy adran er mwyn cael gwybodaeth bendant am eu cynigion. Nod yr adolygiad hefyd yw nodi modelau cynaliadwy ar gyfer y gwaith o ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus yn y dyfodol.

 

Iechyd a Lles

 

27. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gwelwyd newid cyfeiriad sylweddol mewn polisïau, gan ganolbwyntio mwy ar unigolion nad ydynt yn gwneud fawr o weithgarwch corfforol, lle mae’r manteision iechyd a chysylltiadau â thlodi ar eu cryfaf. Y gwaith o fynd i’r afael â’r her hon fydd prif ffocws Cynllun Gweithredu Gweithgarwch Corfforol, a gyhoeddir maes o law – canlyniad gwaith Grŵp Gweithredol Gweithgarwch Corfforol sy’n cynnwys Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.

 

28. Rydym wedi cydweithio â’r Uwch Gynghrair er mwyn buddsoddi mewn rhaglen i ddarparu hyfforddiant o ansawdd o fewn amser y cwricwlwm sydd â’r nod o wella llythrennedd corfforol a sgiliau symud sylfaenol. Ar y cyfan, nod y rhaglen yw bod o fudd i 9,000 o ddisgyblion yn y De o 190 o ysgolion y flwyddyn. Bydd y prosiect hwn yn denu dros £500,000 o gyllid gan yr Uwch-gynghrair.

 

29. Yn ystod yr hydref 2013, cyhoeddais fod y Cynllun Cyfalaf Benthyg yn cael ei gyflwyno gyda’r nod o wella darpariaeth hamdden ar hyd a lled Cymru. Mae’r cynllun peilot gwerth £5 miliwn hwn yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol gynnig am fudd fenthyciad cyfalaf di-log ar gyfer datblygu darpariaeth hamdden yn eu hardaloedd.

 

30. Wrth sefydlu’r cynllun, mae fy swyddogion wedi cyfarfod â phob un o’r 22 awdurdod lleol a bydd y wybodaeth a gasglwyd yn y cyfarfodydd a chan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cael ei defnyddio i addasu a llywio’r meini prawf ac amodau a thelerau’r cynllun benthyg peilot. Nod hyn fydd darparu’r effaith a’r budd mwyaf o ran datblygu chwaraeon lleol a darpariaeth gweithgarwch corfforol.

 

31. Mae’r meini prawf drafft ar gyfer y cynllun benthyg wrthi’n cael eu datblygu ac mae cam pellach o ymgynghori ysgrifenedig wedi’i gynllunio cyn gwahodd cynigion yn ystod yr Hydref 2014. Yna bydd y prosiectau Peilot yn cychwyn yn ystod 2015.

 

32. Deddf Teithio Llesol (Cymru) yw un o brif fesurau’r Llywodraeth sydd â’r nod o drawsnewid ymagwedd Cymru tuag at deithio. I lawer yng Nghymru, un o’r bethau sy’n rhwystro pobl rhag cyflawni’r lefel o weithgarwch corfforol a argymhellir yw’r amser sy’n ofynnol i ymgorffori’r gweithgarwch ychwanegol hwn fel rhan o’n bywydau prysur. Daw budd gwirioneddol galluogi teithio llesol yn sgil galluogi pobl i fynd ati i gerdded neu feicio a gwneud hynny’n rhan o’u bywydau bob dydd drwy ddefnyddio’r dulliau hyn o deithio yn hytrach na cherbydau modur. Os yw’r cyfleusterau ar waith, mae’n galluogi pobl i fod yn egnïol heb newid eu ffordd o fyw neu eu patrymau dyddiol yn sylweddol.

 

33. Mae manteision galluogi pobl i gerdded a beicio’n amlach yn fanteisiol yn mynd y tu hwnt i’r unigolyn - mae’n fanteisiol i’r gymuned ehangach. Er enghraifft, amcangyfrifir bod y GIG yng Nghymru yn gwario £1.4 miliwn yr wythnos (£73 miliwn y flwyddyn) ar drin clefydau sy’n deillio o ordewdra. Byddai poblogaeth iachach a mwy egnïol yn lleihau’r gofyniad hwn yn sylweddol, a byddai modd defnyddio’r cyllid i wella gwasanaethau.

 

34. Mae cerdded a beicio’n amlach yn fanteisiol i les yn gyffredinol a iechyd corfforol a meddyliol. Gall helpu i annog cynhwysiant cymdeithasol hefyd a helpu unigolion i deimlo’n fwy o ran o gymuned leol nag y byddent pe baent yn gyrru drwy eu cymdogaeth leol yn unig. Mae teithio llesol yn cynnig dulliau mwy fforddiadwy o deithio – yn cynnydddu mynediad i waith ac felly’n mynd i’r afael ag amddifadedd. Derbynnir mai gwaith yw’r ffordd fwyaf cynaliadwy allan o dlodi.

 

Deddfwriaeth

 

Bil Treftadaeth

35. Byddaf yn cyflwyno’r Bil Treftadaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y Gwanwyn y flwyddyn nesaf.

 

36. Bydd yn cyfrannu at dri phrif ganlyniad:

 

·         gwarchod adeiladau a henebion rhestredig yn fwy effeithiol;

·         mwy o dryloywder ac atebolrwydd yn y penderfyniadau a wneir ynglŷn â’r amgylchedd hanesyddol; a

·         gwell mecanweithiau ar gyfer rheoli’r amgylchedd hanesyddol yn gynaliadwy.  

37. Bydd yn rhan o gorff integredig o ddeddfwriaeth, polisi, cyngor a chanllawiau a fydd yn gwneud gwelliannau pwysig i’r systemau presennol gan galluogi buddiannau ystyrlon, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i bobl Cymru.

 

Mynediad i dir a dŵr

 

38. Yn ystod yr adolygiad o ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â mynediad a hamdden awyr agored, fe wnes i a’m swyddogion gyfarfod â grwpiau sydd â diddordeb, gyda golwg ar gasglu tystiolaeth a gofyn am safbwyntiau cynnar ar ffyrdd y gallem gynnydd mynediad cyfrifol i’r awyr agored.

 

39. O ganlyniad i’r trafodaethau hyn, byddaf yn lansio Papur Gwyrdd yn dilyn toriad yr Haf, er mwyn gofyn barn ar y broses o wella mynediad cyhoeddus i dir a dŵr yn well.

 

40. Rydw i’n awyddus ein bod yn rhoi cynigion gerbron sy’n ategu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel Teithio Llesol, ac yn parhau i wella’r cynnydd a gyflawnwyd ledled Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu Cymru fel gwlad sydd ar flaen y gad o safbwynt darpariaeth gweithgareddau hamdden awyr agored.

 

41.Byddaf yn cyflwyno Papur Gwyrdd ar feithrin cymunedau a sicrhau gwell mynediad i randiroedd cyn toriad yr haf.

 

Parciau Cenedlaethol (Adolygiad Llywodraethu)

 

42.  Fy mwriad hefyd yw comisiynu adolygiad llywodraethu o’r gwaith o reoli tirweddau dynodedig yng Nghymru. Dyma fydd y dull o ystyried argymhellion ar y mater hwn a wneir gan y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus. Awgrymais y dull cyffredinol mewn dadl yn ddiweddar yn y Cynulliad a byddaf yn nodi’r dull yn fanylach maes o law.

 

John Griffiths AC

Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Mehefin 2014